Bad achub Trefor
Agorodd gorsaf Bad achub Trefor 19 Ebrill 1883, ac fe'i gaewyd ym 1901. Yn swyddogol, galwyd yr orsaf yn orsaf bad achub Llanaelhaearn, gan mai yn y plwyf hwnnw y lleolwyd y cwch. fe godwyd cwt i'r bad achub ger cei Cwmni Ithfaen Trefor. Yr unig fad achub parhaol i wasanaethu yn yr orsaf oedd y Cyprian, a enwyd ar ôl y llong a ddrylliwyd wrth Gwmhistir, ac fe'i gyflwynwyd yn rhodd i Sefydliad Cenedlaethol y Badau Achub er cof