Cwt Band Trefor
Hanes hir a diddorol sydd i'r Cwt Band Trefor presennol.
Am flynyddoedd lawer, ymarferai Band Trefor mewn cwt o bren ac asbestos, nes iddynt dderbyn rhodd haelionus o gapel bach a oedd newydd gau.
Codwyd Capel Bethlehem (A), Trefor yn wreiddiol ym 1812, ac ymhen amser neilltuwyd yr adeilad ar gyfer gwasanaethau Saeson, ar ôl codi Capel newydd Maesyneuadd. Erbyn 1983, dim ond 3 aelod oedd ar ôl yn y Capel Bach a'r rheiny'n Gymry trydedd genhedlaeth. Fe'i caewyd. Gan mai Maesyneuadd oedd piau'r capel cafwyd pleidlais ynglŷn â'i ddyfodol. Penderfynwyd o fwyafrif llethol ei roi yn rhodd am ddim i Seindorf Trefor oedd, ers rhyw ddwy flynedd, wedi gorfod cau yr hen Gwt Band o goed ac asbestos ym mhen arall y pentref. Mae'r Seindorf yn dal i ymarfer yno ac wedi gwario miloedd ar filoedd o bunnau i'w addasu a'i wneud yn ddiddos. Cwt Band y'i gelwir gan bawb ond y geiriau ar y mur yw : Bethlehem, Cartref Seindorf Trefor (sefydlwyd 1863).
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma