Ffrwd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:02, 16 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Groeslon Ffrwd yn dreflan ym mhlwyf Llandwrog ar y ffordd dyrpeg i Bwllheli, sef erbyn heddiw yr A499. Mae yma groesffordd lle mae'r lôn a arweiniai yn y gorffennol o'r mynydd a'r mawndir tir uchel plwyf Llandwrog i ffermydd brasach eu byd y tir isel; cludwyd calch a thywod o'r arfordir i ffermydd yr ucheldir, a gyrrwyd defaid a gwartheg ar hyd y lôn tua'r mynydd yn y Gwanwyn at y porfeydd haf a'r hafodydd. Gellid dadlau felly mai dyma brif groesffordd plwyf Llandwrog yn yr amser a fu.

Mae nifer o fythynnod gerllaw, a bu'r efail a safai yma yn bur gynhyrchiol. Mae un o borthdai parc Glynllifon wrth y groesffordd ar un ochr, a Phlas Isaf yr ochr arall i'r lôn fawr. Defnyddid Plas Isaf felcartref i stiward Ystâd Glynllifon am flynyddoedd lawer. Nid yw Capel Bwlan (MC) nepell o'r lle. Yma hefyd gwelir un darn o hen lôn sy'n arwain at eglwys a phentref Llandwrog. Roedd hon yn arfer â bod yn brif ffordd ar draws y cwmwd cyn adeiladu'r tyrpeg.