Robert William Jones (Gosenian)
Hen lanc annwyl iawn oedd R.W.Jones, Nant Bach, Trefor, yn ffermwr, blaenor Methodist yng nghapel Gosen (MC), ac yn ysgrifennydd Seindorf Trefor ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu'n allweddol ac yn amlwg iawn yn y sywudiad i gael offerynnau newydd i'r Band ym 1897.
Bu'n flaenor, ysgrifennydd ac athro ysgol Sul yng Ngosen, a dengys ei enw barddol Gosenian pa mor bwysig yn ei olwg oedd yr achos yno.
O ganlyniad i ddrylliad alaethus y Cyprian ar arfordir Llŷn ym 1881, a methiant Bad Achub Portin-llaen i fynd allan i'r môr ar y pryd, penderfynwyd cael ail gwch achub ar yr arfordir peryglus rhwng Enlli a Dinas Dinlle.
Ym 1883 cafwyd gorsaf bad achub yn harbwr Trefor i gartrefu'r cwch hwnnw ac fe'i galwyd yn Cyprian am resymau amlwg. Ddiwedd 1883 fe'i galwyd allan ar storm fawr i geisio achub criw y llong, Lady Hinks, a ddrylliwyd ar drwyn y Clogwyn yn Nhrefor. Pan yn rhwyfo rownd trwyn y Cei fe ddymchwelwyd y bad, ond fe achubwyd y criw, a hefyd, trwy ddulliau dewr eraill, holl griw y Lady Hinks. Dyma gerdd Gosenian i Fad Achub y Cyprian, Trefor.
Y Bywyd-fad
Pan y byddo'r mellt yn gwibio
Ac y rhua'r daran gref ;
Pan y byddo'r môr cynhyrfus
Yn ymgodi hyd y nef ;
Parod ydwyt ti'r Bywyd-fad
I wynebu'r tonnau cryf,
A thrwy ganol y rhyferthwy
Yr ywthi di yn hyf.
Pan y byddo'r morwr druan
Bron a suddo yn y lli,
Llama'i galon mewn llawenydd
Pan y gwelo ef tydi ;
Yr wyt ti, Fywyd-fad tirion
Megis angel glân a gwiw,
Gyda neges yn dy fynwes
I rai sydd â'u bron yn friw.
Caru gweini ar blant dynion
Yr wyt ti Fywyd-fad cu,
Gwneud negesau o drugaredd
Yw'th uchelgais bennaf di ;
Y mae hyn yn gwneud dy enw
Yn or-annwyl drwy bob gwlad,
Ac fe genir fyth dy glodydd
Gan ddynolryw mewn mwynhad.
Cael ei ladd mewn damwain wnaeth Gosenian yn haf 1911, pan syrthiodd o ben llwyth gwair yng nghae Llwynaethnen.