Hugh Williams, Cwm

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:42, 10 Chwefror 2020 gan Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Brodor o gyffiniau'r Efailnewydd ger Pwllheli oedd Hugh Williams a chafodd waith yn hogyn ifanc fel gwas ffarm yng Nghwm Coryn, Llanaelhaearn. Dyna pryd y dechreuodd fynychu oedfaon capel Bethlehem (A), Trefor.

Priododd ag Elizabeth, merch William Thomas, hen godwr canu'r Bedyddwyr yn y plwyf, a bu'r ddau yn weithgar gyda'r Ysgol Sul undebol a gynhelid am gyfnod ym Meudy Gwyn Sychnant (gerllaw Cae Cropa). Yn fuan ar ôl priodi aethant i fyw i Caerfoty-bach, sydd er canrif a rhagor o dan domen fawr Chwarel yr Eifl. Bu'n gweini ar y ffermydd lleol a hefyd yn ystod y cynhaeaf ŷd yn Sir Fôn, yn ogystal â bod yn un o weithlu cloddio twnel y rheilffordd ym Mhenmaenmawr.

Bu'n nodedig am ei sêl i'r achos ym Methlehem (Maesyneuadd) gydol ei oes ac am gyfnod yn y 1850au yn gyd-ddiacon yno â Threfor Jones, Rheolwr Chwarel yr Eifl. Byddai wrth ei fodd yn cyfansoddi emynau, a mabwysiadodd yn enw barddol, Iolo Goch. Gwaetha'r modd nid erys ond un o'i emynau.


Llwyddiant yr Efengyl

Boed llwyddiant i'r Efengyl

Ledaenu tros y byd,

Nes cael i lawr y delwau

A'r holl eilunod mud ;

Y bwystfil a'r gau-broffwyd

A'r pagan gyda hwy

Fo'n plygu i enw'r Iesu

A'i ddwyfol farwol glwy.


Yr Iesu a groeshoeliwyd

Ar fynydd Calfarî,

Yw Awdur yr Efengyl

A'i theilwng wrthrych hi.

Daw eto lwythau Israel

O bedwar gwynt y nef

A'u dagrau ar eu gruddiau

I'w ogoneddu ef.


Ysbeiliodd angau creulon

O'i hen awdurdod gaeth

Cyn toriad gwawr y bora

Yn rhydd o'i rwymau daeth.

'Goriadau pyrth marwolaeth

Oedd wrth ei wregys Ef,

Esgynnodd i ogoniant,

Mae 'nghadw yn y nef.


Ceir rhai pytiau byrion o'i waith hwnt ac yma, a'r oll, hyd y gwyddys, yn Feiblaidd e.e.


Danfonodd Duw ei Air i ni

Oedd addas i'n cynghori,

Trwy ysbrydoliaeth Tri yn Un

Derbyniodd y proffwydi...


Elias ar lan afon Cerith

Y gigfran ddaeth ar adain gyflym

A darn o fara yn ei gylfin,

Digon, gwir, a bara yn ei chylfin.


Roedd Hugh Williams yn Hen-hen-hen-hen-daid i'r Prifardd Guto Dafydd, enillydd y goron yn Eisteddfodau Sir Gâr (2014) a Sir Conwy (2019).

Claddwyd Hugh Williams ym mynwent Llanaelhaearn.