Simon Frederick Davies

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:38, 6 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bu'r Parchedig Simon Frederick Davies (1860-1933) yn gurad ym mhlwyf Llanaelhaearn o 1904 hyd 1915. Fe'i ganwyd ym 1860 ac roedd yn briod â merch y Parchedig Thomas Jones, Rheithor Llangwnadl. Cafodd ei addysg yn y Bangor School of Divinity a chael ei ordeinio'n ddiacon ym 1897 ac yn offeiriad ym 1898.

Dyma'r lleoedd y bu'n gwasanaethu ynddynt :

1897-99 : Curad Llanarmon a Llangybi

1899-1901 : Curad Llanbedrog

1901-04 : Curad Llanarmon a Llangybi

1904-15 : Curad Llanaelhaearn a Threfor

         Roedd yn lletya yn Nhrem-y-môr, Trefor

1915-17 : Curad Llangwnadl

1917-30 : Rheithor Llanfihangel-y-Pennant

Bu farw yn Nefyn fis Hydref 1933 yn 72 oed.