Capel Maesyneuadd (A), Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:32, 4 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Achos a chapel annibynnol ym mhentref Trefor yw Maesyneuadd a enwyd ar ôl y fferm gyfagos lle sefydlwyd yr achos yn y lle cyntaf. Yno, yng nghartref Owen a Sidney Jones y bu Annibynwyr yr ardal yn addoli am gyfnod o ddeunaw mlynedd (1794-1812) ac yn ystod y cyfnod hwn ni bu ond rhyw saith neu wyth aelod yno. Cofrestrwyd yr achos ym 1794. Sylfaenydd yr achos oedd merch ifanc y fferm, Sidney Owen, a gafodd droedigaeth pan yn gwrando ar John Griffith, gweinidog Pen-dref (A), Caernarfon, yn pregethu tua 1793-94. Bu John Griffith, ynghyd â William Hughes, Saron, o gymorth mawr i'r achos gwan hwn yn ystod ei flynyddoedd cyntaf.

Gofynnodd y Sidney ifanc i'w thad, John Owen, am ganiatâd i gynnal oedfaon ar aelwyd ei chartref. Fe'i cafodd. Priododd Sidney tua throad y ganrif ag Owen Jones, brodor o blwyf Denio yn Llŷn. Tua 1798 sefydlwyd Ysgol Sul fechan yma o ryw wyth aelod.

Yr aelodau yn ystod y cyfnod ar aelwyd fferm Maesyneuadd oedd :- Owen a Sidney Jones, Maesyneuadd; William ac Eleanor Griffith, Gapas Lwyd; William ac Elinor Price, Tynygors; John a Lowri Roberts, Lleiniau Hirion (Cae'r Foty o 1801).

Yn ystod y blynyddoedd cynnar hyn, arferai Owen a Sidney gerdded i oedfaon yng nghapel Pen-dref, Caernarfon, taith chwe milltir ar hugain nôl a blaen.

Dyna'r ychydig a wyddom am flynyddoedd cynnar achos ymneilltuol cyntaf Trefor.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma