Trwyn y Tâl

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:25, 3 Chwefror 2020 gan Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Trwyn y Tâl yw'r penrhyn crwn ar yr arfordir rhwng harbwr Trefor a'r darn gweddol wastad o dir sydd wrth sawdl Mynydd Garnfor (Mynydd Gwaith) a elwir Gorllwyn (weithiau Hen Ffolt). Does neb o bobl y fro yn ei adnabod fel Trwyn y Tâl, ond yn hytrach fel Y Clogwyn, neu Pen Clogwyn, neu Clogwyn y Morfa.

Bu'r Clogwyn yn rhan o fferm y Morfa tan yn gymharol ddiweddar ac yn eiddo Stad Glynllifon, ond bellach mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi ei brynu. Mae Llwybr yr Arfordir yn mynd yr holl ffordd trosto (o gyfeiriad Clynnog at Fwlch yr Eifl).