Capel Seilo (B), Pontlyfni
Roedd Capel Seilo yn gapel bach gan y Bedyddwyr ym mhentref Pontlyfni, bron ar dalcen pont y pentref, ym mhen dwyreiniol rhes fechan o dai yn wynebu'r gogledd. Mae wedi cau ers blynyddoedd (roedd yn dal yn agored ym 1953 yn ôl y map Ordnans), ond mae'r adeilad yn dal yno ac mewn cyflwr da.
Yn ôl y cyfrifiad crefyddol yn 1851, roedd y capel hwn wedi ei adeiladu tua 1822 ac yn gapel eithaf poblogaidd - gyda 33 o blant a 136 oedolyn yn mynychu yn wythnosol.[1]
Mae'r adeilad hefyd wedi ei chofnodi gan y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymreig.[2]
{eginyn}
Cyfeiriadau
- ↑ [ http://www.genuki.org.uk/big/wal/CAE/ClynnogVawr Cofnod o'r Capel ar wefan genuki.org]
- ↑ Cofnod o'r Capel ar wefan y Comisiwn Brenhinol