Morgeneu Ynad
Roedd Morgeneu Ynad yn fab i Gwrydr ap Dyfnaint ap Iddon, ac yn hen-hen-hen-hen-hen-ŵyr i sylfaenydd ei ach, sef Cilmin Droed-ddu - yn ôl yr achresi canoloesol beth bynnag. Roedd o'n aelod o deulu uchel ei barch a'i wybodaeth ym maes y gyfraith. Roedd yn cael ei gyfrif ymysg "Bonedd Gwŷr Arfon" yng nghanol y 13g., ac yn dal tir yn nhref Dinlle. Dyma'r adeg pan sefydlwyd tiroedd ach neu deulu estynedig, sef "gwelyau" a chafwyd un gwely ei enwi ar ôl Morgeneu, sef Gwely Morgeneu.[1]
Gan fod ei or-gor-gor-gor-gor-wyres, Morfudd ap Howel ap Iorwerth Fychan wedi priodi Tudur Goch ap Grono, gan fynd âthiroedd Glynllifon gyda hi, mae lle i amau mai deilydd (os nad trigiannydd) Glynllifon ddwy ganrif ynghynt oedd Morgeneu.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma