Morgeneu Ynad

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:05, 30 Ionawr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Morgeneu Ynad yn fab i Gwrydr ap Dyfnaint ap Iddon, ac yn hen hen hen hen hen ŵyr i sylfaenydd ei ach, sef Cilmin Droed-ddu - yn ôl yr achresi canoloesol beth bynnag. Roedd o'n aelod o deulu uchel ei barch a'i wybodaeth ym maes y gyfraith. Roedd yn cael ei gyfrif ymysg "Bonedd Gwŷr Arfon" yng nghanol y 13g., ac yn dal tir yn nhref Dinlle. Dyma'r adeg pan sefydlwyd tiroedd ach neu deulu estynedig, sef "gwelyau" a chafwyd un gwely ei enwi ar ôl Morgeneu, sef Gwely Morgeneu.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Dafydd Jenkins, "Iorwerth ap Madog - Gŵr Cyfraith o'r Drydedd Ganrif ar Ddeg" (Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyf.VIII 2, 1953), tt.164-5 [1]