Syr Thomas Wynn, Barwnig 1af

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:27, 27 Ionawr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Penteulu teulu Wynniaid Boduan ym Mhen Llŷn oedd Thomas Wynn (1678-1749), a wnaed yn farwnig ym 1742. Mab ydoedd i Griffith Wynn, sgweier Boduan a Catharine ei wraig, merch William Vaughan, Corsygedol, Dyffryn Ardudwy. Priododd Frances, merch John Glynn ac aeres Ystad Glynllifon. Roedd ganddo frawd, William (1678-1754), a ddaeth yn Syr William, efallai oherwydd iddo fod yn fanergludydd i fintai o bensiynwyr bonheddig. Ar farwolaeth John Glynn, etifeddodd ystad Glynllifon trwy ei wraig, gan uno ystadau Boduan a Glynllifon (er i'r ddwy ystad gael eu rhedeg r wahân i raddau helaeth am y ddwy ganrif nesaf). Yn y man, symudodd y teulu i fyw i Glynllifon gan osod plasty Boduan neu ei ddefnyddio ar gyfer aelodau iau y teulu.[1]

Roedd gan Thomas Wynn a Frances bump o blant, sef un mab, John, Catharine, Elizabeth, (1705-?), Dorothy (1707-44), gwraig cyntaf William Thomas,Coed Helen, a Frances (1713-84) a farwodd yn ddi-briod.[2]

  1. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 171-3
  2. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 173