Thomas Glynn, AS a botanegydd
Roedd Thomas Glynn (c1600-1648) yn fab hynaf Syr William Glynn a'i wraig Jane Griffith - y plentyn hynaf o chwe brawd a phedair chwaer yn y cartref ym Mhlas Glynllifon. Gyda thiroedd ym Mon yn ogystal â Sir Gaernarfon, fe'i godwyd yn Uchel Siryf yn y ddwy sir, Sir Gaernarfon ym 1622 a Môn y flwyddyn ganlynol - roedd hi'n arfer y pryd hynny i gydnabod pwysigrwydd meibion hynaf y prif deuluoedd sirol cyn gynted ag y daethant i'w hetifeddiaeth ac roedd Syr William wedi marw ym 1620.
Mae'r hanesydd Yr Athro Glyn Roberts wedi ei ddisgrifio fel "dyn heb unrhyw rinweddau a safai allan",[1] ac i raddau, yn y maes sirol a gwleidyddol yr oedd hyn yn wir. Cafodd ei ethol (oherwydd ei dras a maint ei diroedd, mae'n debyg) yn aelod seneddol ym 1624 ac eto ar gyfer y Senedd Fer (1640) a'r Senedd Hir (1640-1648). Er ei fod yn frenhinwr ar ddechrau'r ymrafael rhwng y Goron a'r Piwritaniaid, ac yn swyddog ym myddin y Brenin, gwelodd sut yr oedd y gwynt yn chwythu ac fe newidiodd ei deyrngarwch i fod yn gefnogwr llugoer o achos Plaid y Senedd yn y Rhyfel Cartref. Bu'n gwnstabl Castell Caernarfon, 1646-8. Bron na ellid dweud ei bod yn ollyngdod pan fu farw ym 1648, gan adael gweddw, mab (John Glynn) a merch, Catherine. MI wnaeth briodi'n ddoeth, fodd bynnag, gan sicrhau estyniad sylweddol i Ystad Glynllifon trwy briodi Ellen Owen, cydaeres Bodafon-y-Glyn, Llanfwrog, Ynys Môn.[2]
Er nad oedd yn ddyn cyhoeddus, fodd bynnag, fe wnaeth farc sylweddol mewn maes arall, gan ei fod yn un o fotanegwyr cynharaf y gwyddys amdanynt yng Nghymru. Mor gynnar â'r 1630au cynnar os nad cynt, roedd wedi bod yn llythyru â'r botanegydd blaengar, Thomas Johnson, ac yn anfon sbesiminau ato. Dyma, medd yr hanesydd botaneg Dewi Jones, oedd y tro cyntaf y gwyddys amdano i Gymro fynd ati i hel enghreifftiau o blanhigion cynhenid. Glynne oedd y person cyntaf i ddarganfod y planhigyn Otanthus maritimus neu Edafeddog y môr, a hynny ger Dinas Dinlle. Ato fo felly y trodd y botanegwr wrth gychwyn ar ei daith trwy Gymru fis Awst 1639 pan yn chwilio am rai o blanhigion prin yr ardal. Anfonodd Glynn un o'i weision i'w dywys o'r Rhuddlan i Fodesgallen ger Llandudno, lle 'roedd Glynn ei hun yn disgwyl amdano. Arhosodd Johnson ym Mhlas Glynllifon am rai dyddiau, ac aeth Thomas Glynn gydag ef ar ei deithiau i chwilio am blanhigion lleol Eryri.[3] Mae'n bur debyg heddiw mai Thomas Glynn ddechreuodd y traddodiad o arddio ar raddfa fawr o gwmpas y plas.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma