Thomas Johnson

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:13, 19 Ionawr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Thomas Johnson yn Sais a ymddiddorodd yn fawr ym motaneg, gan dyfu'n un o fotanegwyr arloesol Lloegr. Roedd yn gohebu'n aml yn y 1630au gyda Thomas Glynn, Glynllifon ynglŷn â llystyfiant Gogledd Cymru. Daeth ar daith i Gymru yn ystod mis Awst 1639, gan aros yng Nglynllifon a chael ei dywys i fannau o ddiddordeb botanegol gan Thomas Glynn. Hefyd yn y parti oedd Edward Morgan, Cymro Cymraeg ifanc a oedd yn fyfyriwr ar y pryd; yn y man fe ddaeth yn arolygwr Gardd Ffiseg Westminster, ac yn un o ffrindiau Edward Lhuyd.

Cyhoeddodd Johnson lyfr yn yr iaith Lladin yn disgrifio ei ymweliad â Sir Gaernarfon, sef Mercurii Botanici Pars Altera ym 1641.

Gyda'r cyfnod yn un rhyfelgar, cafodd Johnson ei ddenu i fyddin y Brenin ym 1642, ac fe'i goidwyd yn Is-gyrnol. Cafodd ei glwyfo'n ddrwg mewn ymrafael ger Basing House, Swydd Hants ym 1644, ac fu farw'n fuan wedyn.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Dewi Jones, The Botanists and Guides of Snowdonia (Llanrwst, 1996), tt.16-20