Ffingar

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 08:33, 15 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffingar oedd (ac sydd) yr enw ar le penodol ym mhlwyf Llanwnda, sef y gyffordd rhwng Rhyd-y-dimpan (Glan Rhyd) a Phant Gadlys. Yn y fan hon ymwahanai'r ffyrdd tyrpeg a redai i Ddyffryn Nantlle a Phorthmadog ac i Ben Llŷn. Cyfeiria'r enw at y "finger post" a safai wrth y gyffordd i ddangos i deithwyr ar eu ffordd o Gaernarfon y lôn i Borthmadog ar y naill law ac i Bwllheli ar y llall. Dyma, yn ddiweddarach nes i ffordd osgoi Pen-y-groes a'r Groeslon gael ei hagor tua 2003, y man lle ymunodd yr A499 â'r A487.

Wrth y gyffordd fe godwyd cyfnewidfa deleffon newydd ar gyfer Llanwnda yn y 1970au cynnar.

Cylchfan fechan sydd ar y gyffordd heddiw.