Wal Glynllifon
Mae Wal Glynllifon yn adeilad rhestredig (gradd II) a adeiladwyd o gwmpas 1836, tua’r ‘run adeg a ail-adeiladwyd plasty Glynllifon. Gellir gweld y wal ar hyd yr A499 ac y A487. Mae’n wal rwbel sydd tua 10 kilometr mewn hyd, ac i fyny i 4 medr o uchder ar ei phwynt uchaf.