John Glynn
Ganwyd John Glynn, yr olaf o sgweiriaid Ystad Glynllifon i fod â'r cyfenw hwnnw, yn unig blentyn i Thomas Glynn (AS a botanegydd) a'i wraig Ellen o gwmpas y flwyddyn 1644, a chafodd ei fagu gan ei fam wedi i'w dad farw'n weddol ifanc ym 1648 ac o dan warchodaeth ei ewyrth, Edmund Glynn. Etifeddodd yr ystad felly pan nad oedd ond tua phump oed.
Chwareuodd ei ran ym mywyd y sir, gan weithredu fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon, 1668-9. Priododd Elizabeth Owen, merch Syr Hugh Owen, barwnig cyntaf Orielton, Sir Benfro (bu fawr 1670), AS dros Sir Benfro, 1626-60, oedd hefyd â thiroedd yn Sir Gaernarfon a Sir Fôn. Cawsant ddwy ferch (Frances ac Ellen) ond dim mab, ac felly pasiodd etifeddiaeth ystad Glynllifon i'r hynaf, Frances, a briododd Thomas Wynn, Boduan, gan uno ystadoedd Glynllifon a Boduan. O hynny ymlaen a hyd heddiw, Wynn fyddai cyfenw teulu Glynllifon.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 58, 172-3