Afon Efelog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:28, 9 Ionawr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Afon Efelog yn codi yn Y Seler Ddu ar ochr Mynydd Bwlch Mawr, ac yn rhedeg i'r gogledd o fferm Hengwm i lawr nes aberu gyda'r Afon Dwyfach ifanc yn ardal fferm Gyfelog yng nghanol Gors Gyfelog, a thrwy'r gors rhed nant a elwid yn y gorffennol yn Afon Efelog. Mae'r enw'n hen iawn, yn dyddio'n ôl o leiaf at ddiwedd y 12g., pan sonnwyd am yr ardal y siartrau Abaty Aberconwy. Sonnwyd yno hefyd am Flaen Efelog, sef tarddle Afon Efelog uwchben fferm Hengwm. O'r fan honno hyd Gyfelog, neu Y Felog, ffurfiau'r afon ffin ogleddol trefgordd Cwm. Rhywle ar hyd yr afon sonnid hefyd am Rhyd Efelog, ond nid yw lleoliad honno'n hysbys bellach.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), tt.134-6