Lleucu Roberts
Y llenor cyntaf i ennill y ddwy brif wobr ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru a hynny yn Eisteddfod Sir Gaerfyrddin, 2014: Gwobr Goffa Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaith. Enillodd wobr Tir na nOg ar sawl achlysur. Bu’n olygydd i Wasg y Lolfa am gyfnod cyn mentro yn llenor amser llawn. Mae hi’n ysgrifennu llyfrau i blant, sgriptiau teledu a storïau a nofelau i oedolion.
Daw o Rydypennau yn wreiddiol ble y derbyniodd ei haddysg gynradd cyn mynychu Ysgol Gyfun Penweddig a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae hi a’i gŵr Arwel “Pod” Roberts wedi ymgartrefu yn Rhostryfan ac yn rhieni i bedwar o blant.
Am ei llyfrau, gweler:[[1]]
Dyma rai ohonynt: 1-6 Cyfres Yma: Pecyn Trioleg ; Afallon ; Hadau ; Yr Ynys ; 7 Jwg ar Seld; 8 Saith Oes Efa; 9 Wel, Gymru Fach; 10 Stwff Guto S. Tomos; 11 Y Ferch ar y Ffordd; 12 Annwyl Smotyn Bach; 13 Troi Clust Fyddar; 14 Iesu Tirion; 15 Caneuon Heddwch.