Morys Clynnog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:56, 13 Tachwedd 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Diwinydd Cristnogol oedd Morys Clynnog (c.1523-1581).

Deuai’r diwinydd o Glynnog, ac aeth ymlaen i Goleg Crist, Rhydychen a graddio gyda B.C.L. yn 1548. Dyrchafwyd ef yn Esgob Bangor yn 1558, yn dilyn marwolaeth Dr. William Glyn. O dan drefn newydd Elisabeth 1af, alltudiwyd ef i Rufain tua 1578, a daeth yn reithor yn y Coleg Seisnig newydd yno. Gorchmynnwyd iddo adael ei rôl flwyddyn yn ddiweddarach, dan bwysau gan yr aelodau Jeswitaidd. Bu iddo farw yn 1581 tra oedd yn teithio i Sbaen.

Cyhoeddodd lyfr catecism, sef ‘Athraviaeth Gristnogol’.

Cyfeiriadau

Y Bywgraffiadur Ar Lein, Llyfrgell Genedlaethol Cymru