John Evans, Chwarel Cilgwyn
Ychydig a wyddys am flynyddoedd cynnar John Evans (? - 1827), twrnai nodedig o Gaernarfon ac un o ddatblygwyr a chyfalafwyr cynnar chwareli llechi Dyffryn Nantlle, ac yn gyfreithiwr yng Nghaernarfon. Roedd o'n glerc yn swyddfa ystad y Faenol ym 1788, ac ym 1789 fe gafodd erthyglau i fynd yn dwrnai dan Hugh Ellis, gan gymryd y practis twrnai drosodd ym 1808 pan fu farw Ellis. Oherwydd fod Ellis wedi bod â diddordeb yn chwareli Dyffryn Peris a bod John Evans ei hun wedi datblygu busnes cloddio am lechi, daeth ei bractis yn arbenigwyr mewn achosion yn ymwneud â hawliau tir a chloddio. Dywedir iddo fod yn hollbwysig yn y gwaith o oresgyn grym terfysgwyr tir comin plwyf Llanddeiniolen ym 1809 pan oedd ymdrechion yn cychwyn i'w amgáu er budd tirfeddianwyr mawr lleol, ac Ystad y Faenol yn benodol.
Ym 1800, roedd yn un o bedwar partner a gafodd brydles ar hawliau chwarelu am lechi ar dir Comin Cilgwyn. Y tri arall oedd John Price o Sir Fôn a Thomas Jones, Bryntirion, Betws Garmon, dau dirfeddianwr gyda diddordebau yn y gwaith o gloddio am gopr a Richard Roberts, masnachwr llechi o Gaernarfon, y pedwar felly'n ddynion cymharol leol. Fe'i gysylltir yn bennaf â Chwarel Cilgwyn am y rheswm hwn, ond roedd y bartneriaeth yn gyfrifol am ddatblygu chwareli eraill yn yr ardal a thrwy brydlesi eraill, chwareli mewn dyffrynnoedd eraill, megis Garreg Fawr (Waunfawr), Graig Ddu (ar yr hen ffordd rhwng Waunfawr a Llanberis) a chwarel Cook a'r Ddol ym mhlwyf Llanrug. Cafwyd hefyd brydles ar chwareli ar ran o ystad y Coetmor, Bethesda, ym 1800 ac ym 1805 roedd y bartneriaeth yn gweithio Chwarel Tŷ'n Ffridd yno. Ym 1802 gymerodd y bartneriaeth lês ar tair chwarel ar fferm Tal-y-sarn, gan eu galw'r Gwmni Llechi Tal-y-sarn.
Yr oedd yn ymddiddori yn y busnes allforio llechi ac yr oedd ganddo gyfranddaliadau mewn nifer o longau ynghyd ag o leiaf un long ei hun, y slŵp Cilgwyn.
Pan fu farw ym 1827, fe basiodd ei fusnes lechi a'i gwmni twrnai i'w nai Evan Evans (gan nad oedd ei fab ei hun yn gymeradwy wedi iddo briodi'n groes i ddymuniadau ei dad). Nid oedd Evan Evans â diddordeb mawr yn y diwydiant llechi, gan gyfaddef ei fod wedi cael llond bol ar y fusnes, ac fe werthwyd ei siâr yn y bartneriaeth ym 1830. Ei gyngor oedd i'w gwerthu yn Llundain gan nad oedd neb lleol â digon o fodd i'w brynu.
Er gwaethaf ei sefyllfa fel perchennog a chynrychiolydd cyfreithiol perchnogion eraill chwareli, mae rhyw faint o dystiolaeth ei fod yn fwy ystyriol o weithwyr y diwydiant oherwydd yr amodau gwaith garw nag oedd rhai o benaethiaid eraill y diwydiant.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry,(Newton Abbot, 1974), passim.