John Evans, Chwarel Cilgwyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:09, 30 Medi 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ychydig a wyddys am flynyddoedd cynnar John Evans, un o ddatblygwyr a chyfalafwyr cynnar chwareli llechi Dyffryn Nantlle, ac yn gyfreithiwr yng Nghaernarfon. Roedd o'n glerc yn swyddfa ystad y Faenol ym 1788, ac ym 1789 fe gafodd erthyglau i fynd yn dwrnai dan Hugh Ellis, gan gymryd y practis twrnai drosodd ym 1808 pan fu farw Ellis. Dywedir iddo fod yn hollbwysig yn y gwaith o oresgyn grym terfysgwyr tir comin plwyf Llanddeiniolen ym 1809 pan oedd ymdrechion yn cychwyn i'w amgáu er budd tirfeddianwyr mawr lleol, ac Ystad y Faenol yn benodol.

Ym 1800, roedd yn un o bedwar partner a gafodd brydles ar hawliau chwarelu am lechi ar dir Comin Cilgwyn. Y tri arall oedd John Price, Thomas Jones a Richard Roberts, masnachwr o Gaernarfon, y pedwar felly'n ddynion cymharol leol.