Robert Jones, Llanllyfni
Ganwyd [Robert Jones (1806-1896) yn Nolwenith, Llanllyfni, 14 Tachwedd 1806, mab hynaf John Evans, chwarelwr, a Mary ei wraig. Symudodd y teulu i Gae'rwaun yn yr ardal yn 1810, a gelwid Robert Jones ‘Yr Hen Bencae'rwaun’ gan ei gydnabod. Dysgodd ddarllen yn ysgol Sabothol y Methodistiaid Calfinaidd a chafodd flwyddyn yn yr Ysgol Genedlaethol pan oedd yn 12 oed. Ymunodd â'r Bedyddwyr tua 1831. Dechreuodd bregethu yn fuan wedyn, ac ordeiniwyd ef yn weinidog Llanllyfni yn 1836. Priododd Margaret Hughes, Ochr-y-foel, ar 23 Chwefror 1838, ac yn Ochr-y-foel, Mynydd Llanllyfni, y bu yn byw am y gweddill o'i oes. Bu'n weinidog Llanllyfni, Pontlyfni, a Llanaelhaearn (1836-43; Llanllyfni, y Garn, a Chapel y Beirdd (1843-55); Llanllyfni a Thalysarn (1855-70); Llanllyfni (1870-85); Llanllyfni a Phen-y-groes (1885-8). Efe oedd llywydd Undeb y Bedyddwyr Cymreig yn 1880. Cyhoeddodd 12 o lyfrau. Yr oedd yn ŵr hynod yn ei ymddangosiad, ei ddull o feddwl, a'i ffordd o fynegi ei feddwl. Yr oedd yn Rhyddfrydwr selog (gweler Y Faner, 2 Rhagfyr 1868), ac areithiai lawer ar bynciau gwleidyddol, crefyddol, a chymdeithasol. Bu farw 3 Mawrth 1896.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig": erthygl; gan Griffith Thomas Roberts, Llanrug.