Llyn Cwm Dulyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:27, 22 Awst 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Llyn Cwm Dulyn

Llyn ar ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle yw Llyn Cwm Dulyn yng Nghwm Dulyn. Saif y llyn, sydd ag arwynebedd o 34 acer, 779 troedfedd uwch lefel y môr, ychydig i'r dwyrain o bentref Nebo yn Nyffryn Nantlle. Ar ochr ddwyreiniol y llyn mae Craig Cwm Dulyn, ac ychydig ymhellach i'r dwyrain mae copa Garnedd Goch, lle mae Crib Nantlle yn gorffen. Mae Llynnoedd Cwm Silyn ychydig i'r gogledd.

Defnyddir y llyn fel cronfa i gyflenwi dŵr i ardal Llanllyfni, Pen-y-groes a Tal-y-sarn; adeiladwyd yr argae ym 1901. Mae'r llyn yn 97 troedfedd o ddyfnder yn y man dyfnaf. Ceir brithyll yma, a dywedir fod torgochiaid wedi bod yma ar un adeg. Dywedir i arolwg a wnaed ym 1809 ac a gyhoeddwyd gan y bardd Dafydd Ddu Eryri ddangos fod y pysgod yma yn bresennol.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Wicipedia [1], cyrchwyd 18.6.2019