Bachwen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:11, 22 Awst 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Bachwen yn fferm fawr rhwng pentref Clynnog Fawr a'r traeth. Mae'n enwog yn benodol am bresenoldeb hen gromlech neu simbr gladdiu ar y tir. Mae'r heneb yn sefyll ar godiad bach o dir allai fod yn olion pentwr o bridd a arferai orchuddio'r siambr gladdu.

Mae'r olion sydd yno bellach yn cynnwys maen capan, sef slab mawr o garreg, gyda phedwar maen sylweddol yn ei gynnal; yr oedd un wedi diflannu, ond fe wnaeth sgweier Glynllifon, F.G. Wynn tua diwedd y 19g. osod un newydd yn lle'r un oedd ar goll. Wrth i'r gwaith gael ei wneud, cafwyd hyd i olion palmant o gerrig mân ac olion llwch du.

Mae dwsinau o bantau cwpan (cup-holes) ar y maen capan nad oes eglurhad ar eu cyfer, er eu bod yn artiffisial.[1]


Cyfeiriadau

  1. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), t.55