Edmund Glynn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:49, 7 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Capten Edmund Glynn (ganed c. 1619) o’r Hendre, Llanwnda, yn aelod o deulu’r Glyniaid (Teulu Glynn (Glynllifon)) o Lynllifon. Roedd yn chweched mab i Syr William Glyn (Uwch Siryf Ynys Mon tua 1597). Bu'n frwdfrydig yn ei ymdrechion gyda’r lluoedd Piwritanaidd, a gwasanaethodd fel Ustus Heddwch dros gyfnod yr Weriniaeth. Priododd (c.1653) ag Elizabeth,merch Humphrey Meredydd o Fynachdy Gwyn, ym mhen uchaf plwyf Clynnog-fawr. Prynodd yr Hendre ym 1653/4; cyn hynny bu'n byw yn Nhyddyn Tudur, cartref traddodiadol gweddwon Plas Glynllifon, nid nepell o'r prif blas.

Cyfeiriadau

Y Bywgraffiadur Arlein Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Griffiths, J.E. Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Llundain, 1914)