Edmund Glynn
Roedd Capten Edmund Glynn (ganed c. 1619) o’r Hendre, Llanwnda, yn aelod o deulu’r Glyniaid (Teulu Glynn (Glynllifon)) o Lynllifon. Roedd yn chweched mab i Syr William Glyn (Uwch Siryf Ynys Mon tua 1597). Bu'n frwdfrydig yn ei ymdrechion gyda’r lluoedd Piwritanaidd, a gwasanaethodd fel Ustus Heddwch dros gyfnod yr Weriniaeth. Priododd Elizabeth,merch Humphrey Meredydd o Fynachdy Gwyn, ym mhen uchaf plwyf Clynnog-fawr..
Cyfeiriadau
Y Bywgraffiadur Arlein Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Griffiths, J.E. Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Llundain, 1914)