Canolfan Felinwnda

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:15, 8 Gorffennaf 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Canolfan Felinwnda yn adeilad newydd ym mhentrefan Felinwnda a agorwyd tua 2005 ar ôl ymgyrch codi arian gan y bobl leol. Cymerodd le hen gwt a ddefnyddiwyd ar gyfer y Ffermwyr Ifainc lleol a mudiadau eraill ond oedd wedi cyrraedd pen ei oes. Sam Davies, Morogoro, oedd un o'r prif symbylwyr.

Fe'i defnyddir yn helaeth ar gyfer ysgol feithrin, Cymdeithas Hanes y Tair Llan, cangen leol Merched y Wawr, Clyb Garddio Llandwrog a nifer o gyrff eraill.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau