Solomon Jones (Alaw Cadfan)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:32, 28 Mehefin 2019 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cerddor medrus o ardal Rhosgadfan oedd Solomon Jones. Fe'i ganwyd tua'r flwyddyn 1889 a bu farw'n 47 mlwydd oed yn Hydref 1936.

Daeth i amlygrwydd yn ieuanc fel arweinydd llwyddiannus a meistrolgar Côr Meibion Chwarel Penyrorsedd, a mwy nag un côr arall ran hynny, yn enwedig corau plant ac ynglŷn â'r capel. Cyfansoddodd nifer o ganeuon e.e. Casglu a Rhannu (unawd i blant). Yn Chwarel Penyrorsedd y gweithiai a hynny fel gyrrwr yr injan bach. [1]

Roedd hefyd, o'i lencyndod, yn aelod brwd a ffyddlon o Seindorf Moeltryfan yn Rhosgadfan. Ei offeryn oedd y Corn Mawr, y Bâs Dwbwl Bi. Pan fu'n rhaid i'r seindorf honno hepgor gwasanaeth ei harweinydd, Morgan J. Jones, am na ellid fforddio talu iddo, ym 1930, camodd Solomon Jones i'r adwy. Bu'n arwain y band am chwe blynedd hyd ei farwolaeth ym 1936.

Fel cerddor amlwg, cafodd ei urddo â'r enw Alaw Cadfan. I'w bobl ei hun, fodd bynnag, fe'i hanwylid trwy yr enw Dolo.

Mae ei fedd i fyny yn y mynydd ym mynwent Hermon, Moeltryfan, ac ar ei garreg torwyd y geiriau hyn : Llawen a gwasanaethgar oedd ym myd cerdd ar hyd ei oes. [2]

Bu merch iddo, Emily, yn briod ag Owen Griffith Jones o Drefor, a ganwyd iddynt un ferch, Gwyneth. Credir mai yn yr Alban y mae wyres Dolo'n byw. Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Canrif y Chwarelwr gan Emyr Jones 1963 t.109
  2. Cyrn y Diafol gan Geraint Jones 2004 t.43