Pen Hendra
Pen Hendra (neu Ben Hendra) yw'r enw a ddefnyddir bob amser gan drigolion Trefor am sgwâr y pentref. Hendref, neu Hendra, oedd hen enw'r ardal hon wrth droed yr Eifl yn Arfon cyn gosod carreg sylfaen pentref newydd y Cwmni Ithfaen Cymreig ar y 12fed o Ebrill 1856, sef pentref Trefor. Deil yr enw Hendra i gael ei ddefnyddio yn Nhrefor hyd heddiw :
1. Allt 'Rhendra, sef yr allt o Drefor i Llanaelhaearn.
2. Ceir yma dŷ o'r enw Hendra a arferai fod yn gartref i un o feirdd amlwg y fro, William Roberts (Gwilym Ceiri), awdur yr englyn adnabyddus i'r Pistyll.
3. Un o ffermydd hynaf a phwysicaf yr ardal yw Hendre Fawr, sydd wrth sawdl yr Eifl. Yma bu achos cynnar Bedyddwyr y plwyf yn cyfarfod cyn codi eu capel cyntaf, Saron, yn Llanaelhaearn ym 1814.
4. "Mynd draw i'r Hendra" wnaiff trigolion ardal glan y môr ; "mynd lawr Hendra" wneir o ran arall, ac "i fyny'r Hendra" o'r gwaelodion.
5. Bu fferm fechan o'r enw Hendref yng nghanol lle saif y pentref heddiw, ond fe chwalodd y Cwmni Ithfaen Cymreig y ffermdy a chodi tai i'r chwarelwyr ar y tir.
Cyfeirir hefyd, wrth gwrs, at bobl Trefor fel Pobol 'Rhendra. Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma