Band Ceidwadwyr Pen-y-groes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:12, 27 Mehefin 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ychydig iawn o hanes Band Ceidwadwyr Pen-y-groes sydd ar gael. Mae'n eitha tebygol mai rhyw fand bychan o bigion adar Toriaidd gwahanol fandiau'r ardal oedd hwn, yn rhoi ei wasanaeth ar adegau neilltuol megis etholiadau neu ymweliadau gwleidyddion Toriaidd pwysig â'r fro.

Meddai un gohebydd o'r cyfnod amdano : Wnaeth y seindorf na'r blaid fawr o gynnydd yn yr ardal oedd yn enwog y pryd hynny fel cadarnle Rhyddfrydiaeth.

Dyma'r band a arweiniodd yr orymdaith fawr yng Nghaernarfon adeg ymweliad yr Arglwydd Salisbury â'r dref yn rhan olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Arferai'r band chwarae hyd strydoedd Pen-y-groes ar nos Galan. Yr arweinydd bryd hynny oedd J.E.Jones, Y Gors, fu hefyd yn arweinydd Band Nebo am gyfnod. Bu ef farw ym Mhontypridd, Morgannwg, ac yno y'i claddwyd.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Geraint Jones, Cyrn y Diafol, (2004) t.46