Bandiau Cwmwd Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:59, 27 Mehefin 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Dyma restr (yn nhrefn yr wyddor) o enwau Bandiau Cwmwd Uwchgwyrfai (bandiau pres) a fu neu sydd mewn bodolaeth ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg :

1. Deulyn (Baladeulyn)

2. Dolydd

3. Dulyn (Nebo)

4. Ceidwadwyr Pen-y-groes

5. Gwirfoddolwyr Pen-y-groes

6. Moeltryfan (Rhosgadfan)

7. Nantlle (Tal-y-sarn)

8. Llyfnwy (Llanllyfni)

9. Trefor

10. Uwchllifon (Carmel)

Diflannodd Dolydd, Dulyn, dau fand Pen-y-groes ac Uwchllifon, cyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Diflannodd Deulyn a Llyfnwy yn ystod blynyddoedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Diflannodd Cadfan ym 1947 wedi iddo ymuno â Seindorf Dyffryn Nantlle i gystadlu'n aflwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn y flwyddyn honno dan arweiniad Alf Henderson, Nantlle.

O ddeg band Cwmwd Uwchgwyrfai, dau yn unig sy'n dal yn fyw ac yn ymarfer yn gyson - dau fand sydd bron iawn yr un oedran, ac fel mae'n digwydd, dau fand hyna'r cwmwd.

Band Trefor (sefydlwyd ym 1863) a Band Nantlle (sefydlwyd ym 1865).