B.O. Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:26, 26 Mehefin 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Prifathro Ysgol Trefor o 1883 hyd 1913 oedd Benjamin Owen Jones, a daeth yn adnabyddus i gylch eang fel un o brifathrawon hen drefn y gansen a'r cosbi llym. Fe'i ganwyd yn Chwefror 1848 yn un o efeilliaid Owen ac Elizabeth Jones, Bethesda, y tad yn deiliwr ran crefft ac yn Galfinydd pybyr. Addysgwyd Benjamin yn un o ysgolion Arglwydd Penrhyn sef Ysgol y Bechgyn, Ty'ntŵr, Bethesda (addysg eglwysig, wrth gwrs) o 1853 ymlaen a bu'n ddisgybl-athro yno 1862-66 cyn mynd i Goleg Hyfforddi Caernarfon am ddwy flynedd. Ei swydd gyntaf fel athro oedd yn nhref Abergele, ac yna'n y Tyddyn, a thymor yn Coed-llai, Sir y Fflint. Cyfnod pellach wedyn yng Nghwmdeuddwr, Sir Faesyfed ac yna fel dirprwy brifathro ysgol eglwysig ym Manceinion. Dychwelodd i Gymru ym 1871 ac i Ddolgellau, cyn cael ei benodi'n brifathro ysgol Penrhoslligwy yn Sir Fôn. Daeth yn brifathro ysgol Dwyran, Môn ym 1878. Yno, bum mlynedd yn ddiweddarach, yn dilyn clamp o ffrae ynglŷn â'i gyflog, rhoddodd rybudd i ymadael. Fe'i penodwyd yn brifathro ysgol y Cwmni Ithfaen Cymreig yn Nhrefor, Arfon, ddiwedd haf 1883, lle yr arhosodd hyd ei ymddeoliad 30 mlynedd yn diweddarach, yn 65 oed, yn Chwefror 1913.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Geraint Jones, 'Rhen Sgŵl (Braslun o Hanes Addysg Gynnar Plwyf Llanaelhaearn ac Ysgol Trefor), (1978)