Evan Jones, Plas Dolydd
Un o brif adeiladwyr a chontractwyr yr ardal yn y 19g. oedd Evan Jones a fu'n byw ym Mhlas Dolydd yn nhreflan Dolydd. Bu'r busnes yn weithgar hyd blynyddoedd cynnar y 20g dan enw Evan Jones a'i fab.
Ym 1876, cafodd brydles gan Ystad Glynllifon ar ddarn o un o gaeau Tyddyn Dafydd yn Y Groeslon, ar gornel sgwar y pentref gyferbyn â'r orsaf er mwyn codi 8 o dai teras. Dyma rai o dai cyntaf i ffurfio canol y pentref modern.[1] Dair blynedd yn ddiweddarach fe gafodd brydles arall gan yr un ystad ar ddarn o dir fferm Plas Mawr, yr ochr arall i'r rheilffordd, ar gyfer codi dau dŷ arall.[2] Ym 1890 cafodd gyfle i werthu llefydd tân i Frederick G. Wynn, sgweier Glynllifon pan oedd yn codi estyniad mawr i'w blas.[3]
Roedd y busnes yn gyfrifol am godi sawl adeilad a chapel ar raddfa fwy, yn cynnwys (fe dybir) festri newydd i'r Capel Coch, Llanberis, ym 1907.[4]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma