Evan Jones, Plas Dolydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:18, 17 Mehefin 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Un o brif adeiladwyr a chontractwyr yr ardal yn y 19g. oedd Evan Jones a fu'n byw ym Mhlas Dolydd yn nhreflan Dolydd.

Ym 1876, cafodd brydles gan Ystad Glynllifon ar ddarn o un o gaeau Tyddyn Dafydd yn Y Groeslon, ar gornel sgwar y pentref gyferbyn â'r orsaf er mwyn codi 8 o dai teras. Dyma rai o dai cyntaf i ffurfio canol y pentref modern.[1] Dair blynedd yn ddiweddarach fe gafodd brydles arall gan yr un ystad ar ddarn o dir fferm Plas Mawr, yr ochr arall i'r rheilffordd, ar gyfer codi dau dŷ arall.[2] Ym 1890 cafodd gyfle i werthu llefydd tân i Frederick G. Wynn, sgweier Glynllifon pan oedd yn codi estyniad mawr i'w blas.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XD2/6659
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/6665
  3. Archifdy Caernarfon, XD2/11018