Geraint Lloyd Owen
Mae Geraint Lloyd Owen (ganwyd 1941) yn brifardd, ac wedi gwasanaethu fel Archdderwydd Cymru (2016-19). Mabwysiadodd yr enw barddol "Llifon".Brodor o'r Sarnau, Sir Feirionnydd ydyw, ac yn frawd i'r prifardd Gerallt Lloyd Owen. Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011. Bu'n athro a phrifathro (yng Ngricieth) cyn troi ei law at gadw siop lyfrau.
Mae o'n un o gyfarwyddwyr Gwasg y Bwthyn, ac yn flaenor gyda'r Methodistiaid yng Nghapel Glan-rhyd, Llanwnda.[1]
Mae'n byw yn Ffrwd Cae Du ers blynyddoedd lawer.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma