Caer Arianrhod
Ynys greigiog fechan ar yr arfordir rhwng Dinas Dinlle a Phontllyfni yw Caer Arianrhod. Cysylltir hi gyda’r pedwerydd cainc o’r Mabinogi. Yn ôl y chwedl, roed y ‘Caer’ hwn yn gartref i Arianrhod, mam Lleu Llaw Gyffes. Cyfeirnod grid y lleoliad hwn yw SH431545.