Edmund Price

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:51, 30 Mai 2019 gan Gwylan (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Edmwnd Prys yn ficer Clynnog Fawr. Fe'i benodwyd i'r fywoliaeth 10 Mai 1692 neu 1693, gan aros yno weddill ei oes.[1] Mab ydoedd i Edward Price, ac mae'n bosibl mai ficer Llanrhyddlad ac wedyn Llanfaethlu oedd hwnnw; os felly, dichon i Edmund gael ei ddwyn i fyny ar Ynys Môn. Ei wraig oedd Ann Savage (bu farw 19 Mawrth 1720). Roeddent wedi priodi rywbryd ychydig cyn 1795, ac yr oedd ganddynt 5 o ferched a 2 fab, yn cynnwys y Parch. Edward Price, rheithor Llanfairpwll, Sir Fôn. Bu farw Price 10 Chwefror 1718/19. Roedd yn or-ŵyr i'r Archddiacon Edmwnd Prys, y bardd a'r prydydd, o Dyddyn Du, Maentwrog, a'i ail wraig Gwen.[2]).

Yn ei ewyllys gadawodd gymynroddion ariannol i'w plant, a swllt yr un i'r deuddeg person mwyaf tlawd ym mhlwyf Clynnog.[3]

Canwyd marwnad iddo gan Siôn Prichard Prys (marw 1724) ar ffurf ymgom rhwng y bardd a'r eglwys yn ei phrofedigaeth.[4] Fe'i atgynhyrchir isod, wedi ei gopïo o'r gwreiddiol gan y Parch, Ddr, Dafydd Wyn Wiliam, Bodedern.[5]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. ↑ Arthur Ivor Pryce, The Diocese of Bangor During Three Centuries, (Caerdydd, 1929), t.13
  2. ↑ J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.361.
  3. ↑ Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ewyllysiau, B/1718/36.
  4. ↑ Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llsg Peniarth 196, t.20
  5. ↑ Dafydd Wyn Wiliam, Traethawd Ph.D, (Bangor, 1983), Traddodiad Barddol Môn yn y XVII ganrif. Mae Cof y Cwmwd yn ddiolchgar i'r Dr Wiliam am hwyluso'r erthygl hon.