Plas Llanwnda
Saif Plas Llanwnda ar y lôn rhwng Dinas, Llanwnda a Felinwnda. Fferm ydyw erbyn hyn, ac fel arfer fe gyfeirir ato fel "plas", ond bu'n un o blastai pwysicaf yn y plwyf yn y 17-18g. Yn wreiddiol yn perthyn i deulu Wynn, Pengwern, fe briododd yr aeres olaf Ann Wynn â'r Cadben Richard Garnons a ddaeth yn berchennog wedyn.
Ni ddylid cymysgu y Plas Llanwnda hwn efo Plas Llanwnda, Stryd y Castell, Caernarfon (a oedd yn rhan o adran Addysg y Cyngor Sir) hyd yn ddiweddar).
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma