Geraint Jones, Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:38, 15 Mai 2019 gan Gwylan (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Geraint Jones (Trefor)

Mae Geraint Jones o bentref Trefor wedi bod yn ymgyrchydd iaith gydol ei oes, yn athro ac yn brifathro, yn gerddor gyda'r gorau ym myd y bandiau pres, yn arweinydd Seindorf Trefor am flynyddoedd ac yn awdur nifer o nofelau a llyfrau hanes. Yn wreiddiol o Drefor, aeth i GOleg y Brifysgol, Aberystwyth.

Fo oedd y cyntaf i fynd i'r carchar fel rhan o'r ymgyrch dros yr iaith Gymraeg. Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac yn ymwneud â gwleidyddiaeth lleol yn ardal Trefor.

Fo yw Prif Weithredwr Canolfan Hanes Uwchgwyrfai ac un o'i sylfaenwyr. Fo hefyd sy'n bennaf gyfrifol am Yr Utgorn, chwarterolyn llafar y Ganolfan.


Llyfryddiaeth

  • Rhen Sgŵl (1978)
  • Cywrain Wŷr y Cyrn Arian (Pwyllgor Seindorf Trefor, 1988)
  • Dianc i Drybini (1991)
  • Carchar nid Cartref (Clwb y Bont Pwllheli, 1992)
  • Hen Gerddorion Eifionydd (Cyngor Sir Gwynedd, 1993)
  • Cyrn y Diafol:Golwg ar Hanes Cynnar Bandiau Pres Chwarelwyr Gwynedd (Gwasg Gwynedd, 2004)
  • Band yr Hendra, Wmpa–Wmpa! (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
  • Trefor (Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr 2006)
  • Epil Gwiberod yr Iwnion Jac (Gwasg y Bwythyn, 2009)
  • Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
  • Malcolm Allen (Y Lolfa, 2009)
  • Moto Ni, Moto Coch - Canmlwyddiant Cwmni Bysus Clynnog a Threfor (Gwasg Carreg Gwalch, 2012)

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau