Thomas Parry
Ysgolhaig ac arbenigwr ar lenyddiaeth Gymraeg oedd Syr Thomas Parry (1904-1985), a hanodd o'r Gwyndy, Carmel. Brawd i'r llenor ac ysgolfeistr, Gruffudd Parry ydoedd. Thomas oedd yr hynaf o dri brawd a anwyd i Richard Edwin Parry, chwarelwr a thyddynnwr, a'i wraig Jane (née Williams) ym Mrynawel, Carmel. Priododd tad Richard Parry deirgwaith: mab iddo o'i briodas gyntaf oedd tad Robert Williams Parry ; mab arall iddo, o'i ail briodas, oedd tad T. H. Parry-Williams. Mynychodd Ysgol y Babanod, Carmel, Ysgol Penfforddelen ac Ysgol Sir Pen-y-groes. Yn 1922 enillodd Ysgoloriaeth Fynediad i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru.
Llanwodd swyddi pwysig yn ystod ei yrfa, a ddechreuodd gyda swydd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, lle y darlithiodd yr yr Adrannau Clasuron a'r Gymraeg. Bu wedyn yn Athro'r Gymraeg yng Ngholeg Bangor, yn Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol (1953-58), ac wedyn yn Brifathro Coleg y Brifysgol, Aberystwyth (1958-69).
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma