Thomas Parry

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:51, 3 Mai 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ysgolhaig ac arbenigwr ar lenyddiaeth Gymraeg oedd Syr Thomas Parry (1904-1985), a hanodd o'r Gwyndy, Carmel. Brawd i'r llenor ac ysgolfeistr, Gruffudd Parry ydoedd. Thomas oedd yr hynaf o dri brawd a anwyd i Richard Edwin Parry, chwarelwr a thyddynnwr, a'i wraig Jane (née Williams) ym Mrynawel, Carmel. Priododd tad Richard Parry deirgwaith: mab iddo o'i briodas gyntaf oedd tad Robert Williams Parry ; mab arall iddo, o'i ail briodas, oedd tad T. H. Parry-Williams. Mynychodd Ysgol y Babanod, Carmel, Ysgol Penfforddelen ac Ysgol Sir Pen-y-groes. Yn 1922 enillodd Ysgoloriaeth Fynediad i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru.

Llanwodd swyddi pwysig yn ystod ei yrfa, a ddechreuodd gyda swydd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, lle y darlithiodd yr yr Adran Glasuron. Bu wedyn yn Athro'r Gymraeg, yn LLyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol (1953-58), ac wedyn yn Brifathro Coleg y Brifysgol, Aberystwyth (1958-69).

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

[[Categori:Pobl