Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:55, 2 Mai 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough, (3 Ebrill 1802 - 15 Tachwedd 1832) yn ail fab i'r Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough, a'r cyntaf i gael ei eni i ail wraig hwnnw, sef Maria Stella. Bu farw mab hynaf yr Arglwydd 1af, sef John Wynn ym 1800, cyn geni Thomas John.

Fe'i addysgwyd gan diwtor preifat dan oruchwyliaeth David Hughes, Prifathro Coleg yr Iesu, Rhydychen o 1810 pan ail-briododd ei fam. Aeth i Ysgol Rygbi ym 1816, a choleg Eglwys Crist, Rhydychen, ym 1818. Daeth i'w etifeddiaeth ym 1823, pan oedd ei gyfoeth, yn ol un amcangyfrif, yn £113,000 i gyd, gydag incwm o rhenti o bron i £14000 y flwyddyn, er bod llawer o ddyledion ac achosion mewn Siawnsri yn creu trafferthion. Er ei ymdrechion i wella cyflwr yr ystâd trwy amgáu tiroedd comin Llandwrog a Llanwnda ar ôl cael ei ethol i'r Senedd, fe wynebodd wrthwynebiad ffyrnig yn lleol a chan ei wrthwynebwyr mwy aristocrataidd yn y sir, a rhaid oedd gollwng y bil a'i obeithion am gau tir comin. Yn hyn o beth, roedd Griffith Davies yn ddylanwadol iawn, fel mab i dyddynwr ar y comin a chyfrifydd gyda ffrindiau trwy ei fusnes mewn uchel swyddi yn Llundain.[1]

Cafodd ei ethol yn aelod seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon ym 1826, a daliodd y sedd tan 1830 pan wrthododd ail-sefyll. Bu'n weddol weithgar yn y senedd, yn arbennig ar faterion lleol a gwrth-Babyddol. Bu farw'n ddi-blant a heb briodi ym 1832 o'r diciáu, gan adael ei deitl i'w frawd, Spencer Bulkeley, 3ydd Arglwydd Newborough.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. "Wynn, Thomas John 2nd Baron Newborough (I), (1802-1832), of Glynllifon, Caern.", (The History of Parliament: the House of Commons 1820-18332, gol.D.R. Fisher, 2009) ar gael ar lein:[1]
  2. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), tt.172-3.