Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough
Ganwyd Thomas Wynn o Lynllifon a Boduan (1736-1807) yn fab i Syr John Wynn, Barwnig a Jane Wynne ei wraig, merch John Wynne o Felai, Llanfair Talhaearn, Sir Ddinbych. Etifeddodd y teitl Syr a'r farwnigiaeth ar farwolaeth ei dad ym 1773. Roedd yn wleidydd ac yn aelod seneddol hynod o ffyddlon (os nad yn wir yn gwbl gynffonllyd) i'r Brenin Sior III, ac mae yna le i ddadlau mai ceisio sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi ac efallai swydd fras o dan y Goron oedd ei nod yn ei holl waith gwleidyddol.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma