Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:08, 30 Ebrill 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd Thomas Wynn o Lynllifon a Boduan (1736-1807) yn fab i Syr John Wynn, Barwnig a Jane Wynne ei wraig, merch John Wynne o Felai, Llanfair Talhaearn, Sir Ddinbych. Etifeddodd y teitl Syr a'r farwnigiaeth ar farwolaeth ei dad ym 1773. Roedd yn wleidydd ac yn aelod seneddol hynod o ffyddlon (os nad yn wir yn gwbl gynffonllyd) i'r Brenin Sior III, ac mae yna le i ddadlau mai ceisio sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi acv efallai swydd fras o dan y Goron oedd ei nod yn ei holl waith gwleidyddol.