Arglwyddi Newborough

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:54, 29 Ebrill 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Arglwyddi Newborough yn dal eu teitl yn Uchelwriaeth Iwerddon, ac mae'r enw Newborough yn cyfeirio at Newborough yn Swydd Llwch Garmon (Wexford), tref sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Guaire neu "Gorey". Am y rheswm hwn, anghywir yw cyfeirio at deulu Arglwyddi Newborough fel Arglwyddi Niwbwrch. Mae'n debyg mai oherwydd i Thomas Wynn, y Barwb cyntaf, fod yn berchen ar ychydig o leiniau o dir ym mhlwyf Niwbwrch, Ynys Môn, y dewisodd yr enw, trwy weld hwylustod y cyd-ddigwyddiad o ran enw'r ddau le. Fel uchelwyr Gwyddelig, nid oedd ac nid oes gan y pen-teulu a deiliad y teitl unrhyw hawl i eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi er mai modd iddynt sefyll fel ymgeiswyr ar gyfer Tŷ Cyffredin San Steffan.

Crëwyd y teitl ym 1776 i gydnabod gwasanaeth gwleidyddol Syr Thomas Wynn, Barwnig, o Glynllifon a Boduan, i Frenin Lloegr, Siôr III.

Arglwyddi Newborough (1776)

   Thomas Wynn, 1st Baron Newborough (1736–1807)
   Thomas John Wynn, 2nd Baron Newborough (1802–1832)
   Spencer Bulkeley Wynn, 3rd Baron Newborough (1803–1888)
   William Charles Wynn, 4th Baron Newborough (1873–1916)
   Thomas John Wynn, 5th Baron Newborough (1878–1957)
   Robert Vaughan Wynn, 6th Baron Newborough (1877–1965)
   Robert Charles Michael Vaughan Wynn, 7th Baron Newborough (1917–1998)
   Robert Vaughan Wynn, 8th Baron Newborough (b. 1949)

The heir presumptive is the present holder's first cousin Anthony Charles Vaughan Wynn (b.1949). The heir presumptive's heir presumptive's is his brother Andrew Guy Wynn (b. 1950). The heir presumptive's heir presumptive's heir apparent is his son Alexander Charles Guy Wynn (born 1981).

AR Y GWEILL

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau