Prosiect:Golygathon 25ain Medi 2018

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:27, 25 Ebrill 2019 gan Carlmorris (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cynhaliwyd ein trydydd Golygathon yn Nhŷ Capel Clynnog Fawr, sef swyddfa Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, nos Fawrth 25 Hydref 2018, pan ddaeth nifer ynghyd i greu erthyglau am ardal Trefor. Cwblhawyd 7 erthygl newydd sbon ac ychwanegwyd at eraill. Y gobaith yn awr yw cynnal sesiynau bob mis yn y Tŷ Capel.

Diolch i hogia Hendregarrag am eu holl frwdfrydedd - ac i Jina a Marian am ein cadw mewn bisgedi. Braf hefyd oedd cael cwmni ac arweiniad Miriam Lloyd Jones sydd yn gorffen ei chyfnod fel Swyddog Prosiect rhan-amser.

Gweler rhan fach o'r ystafell gyda'r cypyrddau llyfrau llawn o lyfrau cyfeiriol - handi dros ben at ymchwilio ar gyfer erthyglau!