Kate Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 08:52, 1 Tachwedd 2017 gan Robin Owain (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Llenor oedd Catherine ‘Kate’ Roberts (1891-1985).

Ganwyd yn Rhosgadfan ar Chwefror 13 1891 i Owen Owen Roberts a Catherine Roberts. Mae hi’n adnabyddus iawn fel un o brif lenorion Cymru, ac yn nodedig am ei harddull arbennig a'i gallu i ymafael a phynciau sensitif am fywyd dosbarth gweithiol Cymreig yn y 20g. Priododd a Morris T. Williams yn 1928, a buodd y ddau yn rhedeg Gwasg Gee yn Ninbych yn ystod y 1930au. Rhai o’i nofelau mwyaf adnabyddus yw ‘Traed mewn Cyffion’, ‘Y Byw sy’n Cysgu’ a ‘Te yn y Grug’. Cyhoeddodd ei hunangofiant ‘Y Lon Wen’ yn 1960. Derbyniodd doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1950, a derbyniodd ‘Fedal y Cymmrodorion yn 1961. Bu farw ar Ebrill 14, 1985.

"Cae'r Gors", Rhosgadfan.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau