Teulu Glynn (Glynllifon)
Teulu a ymsefydlodd ger afon Llifon, ger Llandwrog oedd y Glyniaid. Maent yn ddisgynyddion i Cilmyn Droed-ddu, ef a ymsefydlodd ger yr afon yn ystod y 9g. Mae’r teulu wedi datblygu dros y blynyddoedd i fod yn un o ystadau mwyaf cefnog yng Ngogledd Cymru. Daeth yr ystâd i ddwylo Thomas Wynn, Bodfean trwy ei briodas â Frances Glyn, merch John Glyn.