George Bowness

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:08, 9 Ebrill 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Hanai George Bowness (1815-) o Orton yn Westmorland (ardal lle ceir chwareli llechi). Fe'i nodir mewn Cyfarwyddiaduron Masnach lleol fel asiant i Chwarel Tal-y-sarn ym 1850 a 1853.[1] Erbyn adeg Cyfrifriad 1851, roedd wedi mudo i Dyffryn Nantlle lle weithiai fel arolygwr chwarel lechi, gan fyw ym Plas Tal-y-sarn. Roedd wedi priodi dynes o Sir Gaernarfon, Catherine, a hanai o Lanllechid, Dyffryn Ogwen. Roedd ei ddau blentyn, Barbara (3 oed) a George A. (2 oed), a hefyd y foirwyn, Mary Hughes, i gyd wedi eu geni yn Llanllechid.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Carnarvon Traders, (cyrchwyd 9.4.2019), [1]
  2. Cyfrifiad Llandwrog 1851